Y Pwyllgor  Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

1 Rhagfyr 2014

 

 

CLA466 – Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu sylfaen statudol ar gyfer y trefniadau cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n dilyn cwrs cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd o flwyddyn academaidd 15/16 ymlaen. Mae'r Rheoliadau'n dirymu Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (S.I. 2009/3359 (w.295)) a Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010 (S.I. 2010/1797 (W. 173)). Mae'r Rheoliadau yn caniatau i un myfyriwr fesul blwyddyn academaidd gael dyfarniad o gymorth ariannol am hyd at dair blynedd tra bydd yn astudio yn yr Athrofa.


CLA467 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy'n ymwneud â bridio cŵn. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i meini prawf cymhwyso, yw bod yn rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

 

 



 

CLA469 - Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau yn darparu ar gyfer parhau mewn grym y gofyniad i labelu llaeth crai gyda rhybudd iechyd. Mae’r rhybudd yn dweud bod y llaeth heb gael ei drin â gwres a gall felly gynnwys organeddau sy’n niweidiol i iechyd, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori’n gryf na ddylai gael ei yfed gan blant, merched beichiog, pobl hŷn a’r rhai sy’n sâl neu â salwch cronig.

Rhaid rhoi’r rhybudd yn y Saesneg, a gellir rhoi’r rhybudd mewn ieithoedd eraill (gan gynnwys Cymraeg, lle pennir y geiriau Cymraeg yn y Rheoliadau).

 

CLA470 - Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae bathodyn parcio person anabl (“Bathodyn Glas”) yn galluogi'r deiliad i fanteisio ar nifer o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag taliadau penodol sy'n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth am roi bathodynnau gan awdurdodau lleol.

 

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Prif Reoliadau i adlewyrchu diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2013 i adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 ynghylch ffurf y Bathodyn Glas ac yn egluro’r modd y cymhwysir darpariaethau penodol o'r Prif Reoliadau.  

 

 

 

 

 

 

 

 

CLA471 - Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) er mwyn gorfodi gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr Pennod IV o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) fel y’i darllenir ar y cyd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1).  

 

CLA472 - Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau yn gwahardd defnyddio enwau penodedig (fel “byrgyr”, “torth gig”, “sosej”) wrth werthu a hysbysebu cynhyrchion os nad yw’r cynhyrchion yn bodloni gofynion lleiafrifol ar gynnwys cig.

 

Maent hefyd yn gwahardd gwerthu cynhyrchion cig heb eu coginio sy’n cynnwys rhannau penodedig o garcas fel ymennydd, traed ac ysgyfaint (er mae eithriad o ran croen selsig).

 

Maent hefyd yn rhwymo awdurdodau bwyd ac awdurdodau  iechyd porthladd i orfodi’r Rheoliadau.

 

Maent hefyd yn cymhwyso darpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 ynghylch gorfodi a throseddau.